Llongyfarchiadau i Gyngor Sir Gwynedd, a reolir gan Blaid Cymru, am bleidleisio yn unfrydol yn erbyn Trident. Gobeithio bod cynghorau eraill yn dilyn ei esiampl.
Congratulations to Plaid Cymru controlled Gwynedd County Council for voting unanimously against Trident. I hope that other councils follow their example.
Cynghorwyr Gwynedd yn gwrthwynebu olynydd system arfau niwclear Trident
Yng nghyfarfod o Gyngor llawn Cyngor Gwynedd ar 1 Mawrth, pleidleisiodd Cynghorwyr Gwynedd yn unfrydol i wrtheynebu cynlluniau Llywodraeth Prydain i greu olynydd i system arfau niwclear Trident.
Wrth gyflwyno’r cynnig gerbron y Cyngor llawn, dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards:
“Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i greu olynydd i’r system arfau niwclear Trident.
“Mynnwn fod Llywodraeth Prydain yn rhoi terfyn ar y cynlluniau hyn ac yn hytrach na buddsoddi’r biliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau cyhoeddus yma yng Ngwledydd Prydain ac mewn rhaglenni penodol i gynorthwyo gwledydd tlawd ein byd.”
Gan bleidleisio o blaid anfon llythyr at y Prif Weinidog ac at Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli Gwynedd yn mynegi eu gwrthwynebiad, Cyngor Gwynedd yw’r Cyngor cyntaf ym Mhrydain i gyflwyno eu sylwadau i Lywodraeth Prydain.
Cefnogwyd y cynnig yn unfrydol gan Gyngorwyr Gwynedd.