Wythnos Werdd y Comisiwn

By jillevans

Yr wythnos hyn, mae Ewrop yn dathlu Wythnos Werdd y Comisiwn am yr wythfed tro. Gyda 4000 o gyfranwyr, 158 o siaradwyr a 49 digwyddiad, mae’r wythnos yn mynd o nerth i nerth. Cychwynodd y syniad fel arbrawf cyfathrebu i drafod syniadau amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd, ond erbyn hyn mae’r wythnos yn hanfodol i system bolisïau’r Undeb.

Slogan yr Wythnos Werdd eleni yw “Un Blaned – Peidiwch a’i Gwastrafffu”. Yn ogystal a’r holl broblemau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, rydym yn gwynebu sialens yr un mor ofidus gyda gwastraff. Rydym yn cynhyrchu gwastraff yn llawer mwy cyflym nag yr ydym yn ei ailgylchu neu ail-ddefnyddio; ond nid yw’r rhan helaeth o’r boblogaeth yn sylwi ar ddifrifoldeb y sefyllfa. ‘Gan i mi fod yn ymgyrchu am dargedau uchelgeisiol mewn lefelau ailgylchu yn ddiweddar, ‘rwyf yn hynod o falch bod Wythnos Werdd 2008 wedi dewis canolbwyntio ar reolaeth gwastraff a threuliad cynaladwy.

Yn ogystal â thynnu sylw at wastraff, bydd yr Wythnos Werdd yn trafod materion fel bioamrywiaeth, cynhesu byd-eang, a’r sialens holl-bwysig o gynnal tyfiant economaidd tra’n anog y meddylfryd gwyrdd.

Leave a Reply