Cymraeg yn Ewrop!

By jillevans

‘Rwyf wedi bod yn ymgyrchu i gael hawliau i’r Gymraeg yn Ewrop ers bron i ddeng mlynedd bellach. O’r diwedd, mae pethau yn edrych yn obeithiol. Rwy’n falch iawn bod llywodraeth ‘Cymru’n Un’ wedi ymrwymo i’r ymgyrch. Mae gan bobl yng Ngwlad y Basg, Catalunya a Galisia yr hawl i gyfathrebu a sefydliadau Ewropeaidd yn eu mamiaith. Pam felly nad oes gennym ni fel Cymry yr un hawl? Mae llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda’r sefydliadau Ewropeaidd i gael cytundeb a fuasai’n caniatau hyn. Nid mater o egwyddor yn unig ydyw, ond byddai’n creu swyddi ac yn hyrwyddo’r economi gan y byddai’r diwydiant cyfieithu yn cael ei leoli yng Ngymru.

Er nad yw rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r iaith Gymraeg yn y sefydliadau Ewropeaidd yn rhoi cydraddoldeb i ni gyda ieithoedd eraill, mae yn rhoi peth darpariaeth i siaradwyr Cymraeg – yn bennaf yr hawl i gyfathrebu gyda’r sefydliadau yn Gymraeg. Fel ASE, wrth gwrs, fe hoffwn i hefyd yr hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg o fewn y Senedd, fel y bydd sefydliadau eraill yn caniatau.

Rydw i wedi ysgrifennau at sefydliadau, mudiadau, ysgolion a cholegau i ofyn iddynt ysgrifennu at Lywydd Senedd Ewrop, Hans Gert Poettering, i ddatgan eu cefnogaeth i gael statws cyd-swyddogol i’r Gymraeg, gan ddweud y buasent yn cyfathrebu â’r Senedd yn y Gymraeg pe bai hynny’n bosib. Buasai hyn o fudd mawr i’r ymgyrch ac i broffil Cymru yn Ewrop. Os hoffech ymuno â’r ymgyrch, ewch at fy wefan www.jillevans.net, byddaf yn cynhoeddi mwy o wybodaeth ar sut y gallwch chi helpu cyn hir.

Leave a Reply