Dydd Sadwrn (7fed o Fehefin) mae Gwyl Ewrop yn digwydd ym Mrwsel. Bydd yn gyfle gwych i ddinasyddion ymweld a dysgu am y sefydliadau sydd yn rheoli Ewrop.
Fel y gallwch ymweld â’r Senedd yng Nghaerdydd unrhyw ddydd Sadwrn, bydd y diwrnod hwn yn eich galluogi i ymweld a’r Cyngor, y Comisiwn, y Senedd, Pwyllgor y Rhanbarthau a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop, bydd yna hefyd stondinau gwybodaeth ac amineiddiadau o’r 27 aelod wladwriaeth.
Thema yr wyl eleni yw “blwyddyn o ddeialog rhwng y diwylliannau”. O ganlyniad, bydd nifer o gymdeithasau, o amineiddiadau ac o sioeau ar lwyfannau ac ar y strydoedd ym Mrwsel. ‘Rwy’n credu fod hyn yn gyfle gwych nid yn unig i ddysgu am y system wleidyddol yn Ewrop, ond hefyd am hanes, etifeddiaeth a diwylliant eang ei rhanbarthau.